Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Swyddfa Cymru
Tŷ Gwydyr
Whitehall

 

23 Medi 2016

Annwyl Alun,

Bil Cymru – Cylch Gwaith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2016, bu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn trafod Bil Cymru.  

Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn egluro'r rhannau hynny o'r Bil y tynnir sylw atynt yn yr Atodiad i'r llythyr hwn.  Yn benodol, lle'r ydym wedi nodi meysydd lle'r ydym yn pryderu fod gan y Cynulliad lai o gymhwysedd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau'r asesiad hwnnw a rhoi eglurhad ynghylch sut y penderfynwyd ar y cymalau cadw. Yn wir, gallai fod yn ddefnyddiol gosod cymal yn y Bil yn cadarnhau nad bwriad y setliad newydd yw lleihau ystod neu gwmpas y pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru.

Byddwn yn gwerthfawrogi ymateb er mwyn cyfrannu at drafodaethau Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad.

Yn gywir

Russell George AC,
Cadeirydd

Atodiad

Ym mis Tachwedd 2015, gofynnodd cyn Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru am eglurhad am y cymalau cadw a'r meysydd penodol hynny o'r Bil Cymru drafft a oedd yn gymwys i'r pynciau yng nghylch gwaith y Pwyllgor.

Fel cyn Bwyllgor y Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor hwn hefyd yn croesawu'r cynnydd yn y pwerau ar gyfer trafnidiaeth, o ran gallu'r Cynulliad i ddeddfu yn ogystal â'r cynnydd yn mhwerau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn meysydd penodol. Hefyd, y cymalau cadw a restrwyd yn y Bil Cymru drafft sydd wedi'u dileu o'r Bil presennol, fel y'i gosodwyd, ac sy'n ymwneud â'r canlynol:

Hefyd, bod eithriad wedi'i ychwanegu i gymal cadw (hynny yw, maes y caiff y Cynulliad ddeddfu ynddo), o ran pwnc Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, sy'n adlewyrchu'r cymhwysedd yn y setliad presennol.

Fodd bynnag, i raddau helaeth, mae'r un materion y nodwyd eu bod yn peri pryder yn y cymalau cadw yn y Bil Cymru drafft, ac a nodir isod yng ngwaith y Pwyllgor hwn, yn dal i fod yn berthnasol ym Mil Cymru fel y'i cyflwynwyd. Felly, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn parhau i gymeradwyo'n llwyr bryderon y cyn Bwyllgor Menter a Busnes am y cymalau cadw canlynol yn y Bil sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor hwn ac a allai effeithio ar gymhwysedd y Cynulliad pe byddai'r Bil yn dod i rym, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd.

Mae'r cyfeiriadau isod at 'Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru' yn cyfeirio at y setliad presennol o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae'r cyfeiriadau at 'setliad newydd' yn cyfeirio at Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ym Mil Cymru.

1.0 Gweler isod farn y Pwyllgor ynghylch materion penodol a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A –  Pennawd C –  Masnach a Diwydiant.

1.1 Adran C6 Diogelu defnyddwyr

1.2     Mae'r eithriad presennol yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn rhwystro'r Cynulliad rhag deddfu ynghylch 'consumer protection, including the sale and supply of goods to consumers, consumer guarantees, hire purchase, trade descriptions, advertising and price indication....'

1.3     Mae'r setliad newydd yn cynnwys disgrifiad manylach o'r hyn y mae'r cymal cadw 'diogelu defnyddwyr' yn ei gynnwys. Er enghraifft, ym mater a gedwir yn ôl 70 mae'r geiriau ychwanegol 'supply of services to consumers' i'w gweld yn y setliad newydd. Nid yw'r rhain yn rhan o'r eithriad presennol ar gyfer diogelu defnyddwyr yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Felly, mae geiriad y mater hwn a gedwir yn ôl yn gulach.

Mae'n dal i fod yn destun pryder i'r Pwyllgor nad yw'n glir a yw cyflenwi gwasanaethau i ddefnyddwyr yn gymwys yng nghyd-destun Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 yn unig ynteu a fwriedir iddo fod yn gymwys yn ehangach ar draws gwahanol fathau o wasanaethau i ddefnyddwyr yn fwy cyffredinol, e.e. gwasanaethau bws ac ati.

1.4     Yn ogystal, mae'r setliad newydd yn cynnwys y geiriad  'safety of, and liability for, services supplied to consumers' ym mater a gedwir yn ôl 71. Nid yw'r geiriau hyn ychwaith i'w cael ar hyn o bryd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac felly maent yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu fod cymhwysedd y Cynulliad yn gulach o ran mater a gedwir yn ôl 71.

1.5     O ran mater 72 a'r cyfeiriad at 'estate agents', caiff y Cynulliad ar hyn o bryd ddeddfu ar hyrwyddo busnes a chystadleurwydd ac nid oes cyfeiriad penodol at werthwyr tai fel eithriad yn Atodlen 7. Gallai'r mater hwn, felly, gulhau cymhwysedd y Cynulliad mewn perthynas â gwerthwyr tai.

Mae'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi'r eglurder yn y Nodiadau Esboniadol sy'n cadarnhau bod asiantau gosod yn gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli, ond mae'n pryderu y gallai’r ffaith fod mater 72 yn cynnwys rheoleiddio gwerthwyr tai leihau cymhwysedd y Cynulliad.

1.6     Nid yw'r geiriau canlynol ym mater 76 yn eglur ac nid oes rhagor o fanylion yn y Nodiadau Esboniadol i'r Bil  -  'the national accreditation body and the accreditation of bodies which certify or assess conformity to technical standards in relation to products or environmental management systems.'

          Barn y Pwyllgor yw ei bod yn aneglur a yw mater 76 yn lleihau cymhwysedd y Cynulliad.

2.0   Adran C12 Ardaloedd a gynorthwyir a chyfyngiadau ar gymorth ariannol i ddiwydiant

2.1    Mae mater a gedwir yn ôl 87 yn cyfyngu cymhwysedd y Cynulliad o ran:

Adran 1 ac Adran 8(5)(7) o Ddeddf Datblygiadau Diwydiannol 1982 (‘Deddf 1982’)

2.2     Mae Adran 1 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn, bennu unrhyw ardal o Brydain yn ardal ddatblygu neu’n ardal ganolradd. Yn ogystal, mae Adran 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol ar gyfer diwydiant. Yn ôl paragraff 195 o'r Nodiadau Esboniadol, ‘O ganlyniad i gadw’r mater sy’n ymwneud â’r terfynau ariannol, ni all cymorth ariannol a roddir i ddiwydiant o dan adran 8 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982 gan Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Gweinidogion y DU fod yn fwy gyda’i gilydd na throthwyon ar gyfer cyfanswm gwariant sy’n cael eu gosod gan Weinidogion y DU’.

2.3     Er bod pwerau gweithredol yn cael eu cadw ar gyfer Gweinidogion Cymru o dan Adran 8 o Ddeddf 1982, fe allai'r ffaith bod pwnc Deddf 1982 wedi ei gynnwys gulhau gallu'r Cynulliad i ddeddfu o dan eiriad presennol Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r pennawd cyffredinol ‘economic regeneration and development’.

          Mae'r Pwyllgor yn pryderu fod cymhwysedd y Cynulliad yn gulach oherwydd cadw mater 87.

3.0   Gweler isod farn y Pwyllgor ynghylch materion penodol a gedwir yn  ôl o dan Atodlen 7A - Pennawd E - Trafnidiaeth yn y Bil.

3.1    Adran E1 Trafnidiaeth ffyrdd

3.2     Mae mater 104 yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr ac mae'n cynnwys hyfforddiant, profi ac ardystio. O dan Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ar y llaw arall, cyfeirir ato fel 'trwyddedu gyrwyr' yn unig.

3.3     Mae'r geiriad, felly, yn gulach o dan y setliad newydd, a gallai'r ffaith bod y gair 'training' wedi'i gynnwys effeithio ar allu'r Cynulliad i ddeddfu mewn perthynas â hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu fod cadw mater 104 yn achosi lleihad yng nghymhwysedd y Cynulliad o ystyried y caiff y Cynulliad, o dan y setliad presennol, ddeddfu ar hybu diogelwch ar y ffordd.

4.0     Adran E2 Trafnidiaeth ar reilffyrdd

4.1     Mae'r eithriad presennol o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, yn cyfeirio at ‘provision and regulation of railway services’.  O dan y setliad newydd, mae mater 123 yn cyfeirio at ‘railway services’ yn unig.

4.2     Mae'r ddarpariaeth ddehongli o dan E2 yn diffinio ‘railway services’ yn fwy penodol drwy gyfeirio at adran 82 o Deddf Rheilffyrdd 1993.  Mae hyn yn cynnwys:

·         services in relation to the carriage of passengers, luggage, parcels mail and goods and services in relation to stations,

·         maintenance facilities and

·         the provision and operation of the rail network itself

Mae'r diffiniad o ‘railway services’ yn gulach na'r hyn sydd yn y setliad presennol, ac mae'r Pwyllgor yn pryderu am y lleihad posibl mewn cymhwysedd a allai ddeillio o gadw mater 115.

4.3    Adran E6: materion eraill

4.4     Mae'r eithriad presennol yn Atodlen 7 yn cyfeirio at fanyleb dechnegol ar gyfer tanwydd i'w ddefnyddio mewn peiriannau mewndanio, ac mae'r setliad newydd o dan fater 126 yn cyfeirio at yr un peth, fel a ganlyn:

‘technical specifications for fuel or other energy sources or processes for use in road, rail, marine waterway or air transport’

4.5     Mae geiriad y setliad newydd yn fwy cyfyng ac yn cynnwys ffurfiau ehangach eraill o deithio, ac yn cyfeirio at yriant heblaw peiriannau mewndanio, felly mae yma leihad o ran cymhwysedd.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu fod cymhwysedd y Cynulliad yn gulach oherwydd cadw mater 126.

5.0      Rheoleiddio bysiau

Roedd rheoleiddio bysiau yng Nghymru yn faes yr oedd y Pwyllgor blaenorol a Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael rhagor o bwerau ar ei gyfer. Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol i'r Pwyllgor hwn hefyd i ddangos sut y gellid ystyried Rheoleiddio Bysiau o ran cymhwysedd y Cynulliad yn y setliad newydd.

5.1     Enghraifft: O dan y setliad newydd, mae modd i'r Cynulliad ddeddfu ynghylch cofrestru bysiau lleol.  At hynny, dywedodd yr Adran Drafnidiaeth wrth y Pwyllgor Menter a Busnes ym mis Medi 2015 ei bod yn credu bod gan y Cynulliad/Gweinidogion Cymru bwerau i reoleiddio bysiau eisoes.

5.2     Yn y ddeddfwriaeth bresennol, mae pwerau gweithredol cyfyngedig fel y gall Gweinidogion Cymru/awdurdodau lleol gydgysylltu gweithrediadau bysiau. Ceir y pwerau hynny yn y Ddeddf Trafnidiaeth a Deddf Trafnidiaeth Leol 2008, ac maent yn cynnwys Partneriaethau Gwirfoddol a Statudol a Chontractau Ansawdd Statudol.

5.3     Mewn theori, dylai'r ddau ddull uchod ganiatáu ar gyfer rheoleiddio bysiau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cafeat i hyn. Y rheswm am hyn yw bod rhai o'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â rheoleiddio yn cynnwys y posibilrwydd y gellid capio a rheoleiddio prisiau tocynnau a thocynnau integredig. Nid yw'n glir a fyddai meysydd fel hyn yn rhan o'r cymalau cadw canlynol:

C3: Cystadleuaeth: mater 67 ‘Regulation of anti-competitive practices and agreements; abuse of dominant position; monopolies and mergers’.

C6: Diogelu defnyddwyr: mater 70 ‘Regulation of the sale and supply of... services to consumers’

Mae'r Pwyllgor yn pryderu y byddai prisiau a thocynnau integredig ac ati yn dod yn rhan o'r cymalau cadw uchod pe byddai Cymru'n arfer opsiwn o'r fath.

6.0 Gweler isod farn y Pwyllgor ynghylch materion penodol a gedwir yn  ôl o dan Atodlen 7A - Pennawd H - Cyflogaeth yn y Bil.

6.1    Adran H1 – Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol

6.2     Ar hyn o bryd, caiff y Cynulliad ddeddfu ar 'bynciau tawel' (pynciau nad ydynt wedi'u datganoli, nac yn eithriadau o dan Atodlen 7) ar yr amod eu bod yn ymwneud â phynciau y rhoddwyd pŵer i ddeddfu yn eu cylch o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r setliad presennol.

6.3    Cadarnhawyd hyn gan benderfyniad y Goruchaf Lys yn achos Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 lle dyfarnwyd bod y Ddeddf o fewn cymhwysedd er ei bod yn ymwneud ag 'amaethyddiaeth', sy'n bwnc datganoledig a 'chyflogaeth', sy'n bwnc tawel.

6.4     Yn y setliad newydd mae pwnc tawel 'cyflogaeth' wedi dod yn fater penodol a gedwir yn ôl o dan Bennawd H ‘Employment rights and duties and industrial relations including the subject of…’ [yna cyfeirir at restr o ddeddfwriaeth benodol ynghylch cyflogaeth].

6.5     At hynny, mae eithriad penodol wedi'i wneud i'r cymal cadw hwn sy'n eithrio ‘the subject-matter of the Agricultural Sector (Wales) Act 2014’ ac yn gwarchod pwnc y Ddeddf hon.

6.6     Trwy gynnwys 'cyflogaeth' yn fater a gedwir yn ôl yn y setliad presennol ar y cyd â'r profion deddfwriaethol newydd, mae cymhwysedd y Cynulliad yng nghyd-destun cyflogaeth wedi’i leihau’n sylweddol.

6.7     Mae Pennawd arall hefyd yn y setliad newydd, sef 'Y Proffesiynau', sy'n cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol fel mater na cheir deddfu yn ei gylch.  I bob golwg, mae hwn yn gymal cadw ehangach na'r eithriad presennol yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

6.8    Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol i'r Pwyllgor i ddangos sut y gallai Bil arfaethedig gael ei ystyried o dan y setliad newydd:

       Gallai Bil Cynulliad geisio deddfu ar gyflogau, amodau a hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol mewn modd tebyg i Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

       O dan y setliad presennol, ac yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf 2014, byddai Bil sy'n ymwneud â'r sector gofal cymdeithasol o fewn cymhwysedd.

       Yn yr Atodlen 7A arfaethedig, o dan Bennawd H, Adran H1, mae hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol yn faterion a gedwir yn ôl. Golyga hynny y gallai'r Bil fod y tu allan i gymhwysedd.

       Mae'r unig eithriad i bwnc Deddf 2014 yn gwneud hyn yn fwy tebygol, gan awgrymu, er bod cyflogau amaethyddol, gwyliau a hyfforddiant o fewn cymhwysedd, y bydd y rhain yn faterion a gedwir yn ôl mewn sectorau eraill.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu'n fawr ac yn dymuno deall pam mae’r cymhwysedd hwn yn cael ei leihau o ran deddfu ar 'bynciau tawel', megis cyflogaeth, ar yr amod eu bod 'yn ymwneud â' phynciau y rhoddwyd pŵer i ddeddfu yn eu cylch o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

7.0 Adran H3 – Chwilio am swyddi a chymorth

7.1 Gallai mater a gedwir yn ôl 141: ‘Arrangements for assisting persons to select, train for, obtain and retain employment and to obtain suitable employees’, gulhau cymhwysedd y Cynulliad ar ddatblygu economaidd o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae nodiadau esboniadol y Bil yn egluro mai'r ‘bwriad wrth gadw’r mater hwn yw cadw cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r holl raglenni cysylltiedig â gwaith ar gyfer pobl anabl’. Er gwaethaf yr esboniad, mae'r geiriad o bosibl yn culhau cymhwysedd y Cynulliad o dan 'adfywio a datblygu economaidd' yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu am y lleihad posibl mewn cymhwysedd wrth gadw mater 141.

8.0   Meysydd penodol o ansicrwydd mewn perthynas â phwerau gweithredol Gweinidogion Cymru

8.1     Yn y Bil, nid ymdrinnir â datganoli Masnachfraint Cymru a'r Gororau nac â throsglwyddo swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru.

8.2     Yn ôl cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi a pharagraff 2.5.10 o'r ddogfen Pwerau at Bwrpas:

8.3     ‘Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn datganoli swyddogaethau masnachfreinio i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i arwain gwaith caffael a rheoli masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau.’

8.4     Mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet, fel a ganlyn: ‘from early 2017, responsibility for rail franchising will be transferred from the Secretary of State to the Welsh Ministers’.

Byddai'r Pwyllgor hefyd yn falch o gael eglurhad gan Lywodraeth y DU am yr amserlen sydd ganddi dan sylw wrth ddatganoli swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Masnachfraint Cymru a'r Gororau, o ystyried nad oes darpariaeth yn y Bil ar gyfer hyn.

8.5     Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn y gorffennol am newid Deddf Rheilffyrdd 1993 mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i gyrff yn y sector cyhoeddus gynnig am gontractau masnachfraint. Byddai hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa yn yr Alban lle darperir ar gyfer masnachfraint yng nghymal 49 o Fil yr Alban ‘Rail: franchising of passenger services’. Nid oes darpariaeth debyg wedi'i gwneud yn y Bil.

8.6     Wrth drafod goblygiadau Comisiwn Smith i Gymru, dywedodd cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi y byddai dadansoddiad yn cael ei wneud o argymhellion perthnasol Comisiwn Smith yng nghyd-destun Cymru fel y gellir gwneud penderfyniadau yn fuan yn y Senedd nesaf ynghylch pa argymhellion i'w rhoi ar waith yng Nghymru.

8.7     Dywedodd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth wrth y cyn Bwyllgor Menter a Busnes ym mis Medi 2015 fod y mater yn cael ei drafod: “the UK Government agreed to consider which non-fiscal parts of the Smith Commission agreement, including that commitment, might be implemented for Wales. That consideration is on-going, and further discussions with the Welsh Government will take place shortly in the context of preparing the Wales Bill”.

Mewn perthynas â chyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi a goblygiadau Comisiwn Smith i Gymru, yn enwedig mewn perthynas â diwygio Deddf Rheilffyrdd 1993 (a fyddai'n caniatáu i gyrff y sector cyhoeddus gynnig am gontractau masnachfraint), mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw hyn yn rhan o Fil Cymru.